Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Cyllido Ysgolion yng Nghymru | School Funding in Wales

SF 07

Ymateb gan: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu Cyngor Sir Benfro

Response from: Pembrokeshire County Council’s Schools and Learning Overview and Scrutiny Committee

 

 

Mae’r ymatebion i bob cwestiwn fel a ganlyn;

Mae’r Pwyllgor o’r farn y dibynnir gormod ar gyllid grant ac y dylai cyllid ar gyfer Addysg ac  Ysgolion gael ei glustnodi yn rhan o’r Grant Cynnal Refeniw.

Dim ymateb

Mae’r Pwyllgor yn gwerthfawrogi’r trefniadau presennol lle mae cyllidebau Addysg yn cael eu dirprwyo gan Lywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol, ac yna gan Awdurdodau Lleol i Ysgolion, ac mae’n credu ei bod yn bwysig i’r broses hon barhau er mwyn sicrhau gwerth am arian.

Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor o’r farn nad yw’r strwythurau rhanbarthol presennol yn cynnig gwerth am arian ac y dylai cyllid ar gyfer Cynghorwyr Herio gael ei ddarparu’n uniongyrchol i Awdurdodau Lleol yn rhan o’r Grant Cynnal Refeniw yn hytrach na chael ei hidlo trwy ERW (Ein Rhanbarth ar Waith), i ddileu’r dyblygu sy’n bodoli ar hyn o bryd.

Mae’r Pwyllgor o’r farn bod angen adolygu’r fformiwla ar gyfer yr Asesiad o Wariant Safonol, oherwydd y ffaith bod y fformiwla bresennol wedi’i phwysoli yn erbyn Awdurdodau Lleol gwledig fel Sir Benfro ac na roddir digon o bwysoliad i faterion yn ymwneud â’r ffactor ‘teneurwydd poblogaeth’. Yn ogystal â bod â rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, mae Sir Benfro dan anfantais o ganlyniad i’w natur wledig, oherwydd bod ganddi ysgolion llai a bil trafnidiaeth ysgol sylweddol. Dylai amddifadedd gwledig ac amddifadedd i wasanaethau hygyrch ddod fwyfwy amlwg yn y ffordd y mae’r Grant Cynnal Refeniw yn cael ei bennu. 

·         goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru ynghylch sut y mae Awdurdodau Lleol yn pennu cyllidebau ysgolion unigol, gan gynnwys, er enghraifft, y pwysoliad a roddir i ffactorau megis proffil oedran y disgyblion, amddifadedd, iaith y ddarpariaeth, nifer y disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a darpariaeth cyn oedran gorfodol;

Dim ymateb

Dim ymateb

Dim ymateb